TRAFNIDIAETH CYMUNEDOL
Darganfyddwch pa drafnidiaeth gymunedol sydd ar gael i'w llogi yn ein canolfan
BWS NI
‘Bws Ni’ Bws mini cyfoes llawr isel wedi ei addasu ar gyfer mynediad di-drafferth. Gall gario hyd at undegchwech ac mae’r beltiau yn gymwys i blant ac oedolion. Gyda lleihad yn nifer y seddau gellir darparu ar gyfer pedair cadair olwyn yn ddiogel.
Mae gan y cerbyd hongiad ‘penliniol’ a ramp mynediad yn gymorth mynediad ar gyfer cerddwyr a chadeiriau olwyn. Mae’r ffenestri llydan yn creu awyrgylch dymunol i wylio’r golygfeydd wrth deithio.
Mae gennym dîm o yrrwyr cymwys gwirfoddol fydd yn barod i yrru eich grŵp ar eich taith ddewisol neu fe gewch drefnu i hyfforddi a chymhwyso eich gyrrwr eich hun. Dim ond ar gyfer grwpiau a chymdeithasau sy’n aelodau o Bartneriaeth De Sir Ddinbych mae’r bws mini.
Os am wneud ymholiadau ar gyfer aelodaeth ac i gadarnhau bod eich grŵp yn gymwys i gofrestru yna cysylltwch â ni neu galwch yn y ganolfan.

CLWB CERBYDAU CYMUNEDOL EDEYRNION
Mae gan y clwb cerbydau cymunedol gyfansoddiad ffurfiol ac mae aelodaeth yn costio £50. Fel aelod, fe ymgynghorir â chi ar sut y mae’r clwb yn cael ei redeg ac os oes gennych unrhyw sylw neu gynnig, sicrhewch bod PCDSD yn cael gwybod
Mae un cerbyd ar gael ar y funud, Nissan LEAF ond dim ond aelodau sydd wedi eu hyswirio sydd i’w yrru. Y clwb sydd berchen y car ac mae wedi ei gofrestru a’i yswirio yn enw Partneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych
Mae’r car ar yswiriant cyfun sy’n cynnwys defnydd , cymdeithhasol, domestig a phleser. Dydy’r yswiriant ddim yn cymwys ar gyfer ‘defnydd busnes’ (h.y. defnydd sy’n ymwneud â chyflogaeth) Rhaid i’r gyrrwyr fod dros 25 oed. Mae gennym gynllun cyrchu cerbyd sy wedi torri i lawr, dros y DU, pe bai anffawd.
Cost cyfredol hurio’r cerbyd yw 25c. y filltir + £1 yr awr am gyfnod y benthyciad. Golyga hyn fod cost y cerbyd y filltir yr un peth i bawb dim ots sawl milltir y maent yn ei yrru.
Pe baech angen mwy o wybodaeth neu am ymuno â’r clwb cerbyd cymunedol cysylltwch â ni drwy ffonio 01490 266004 neu e-bostiwch office@sdcp.org

CYNLLUN GALWCH GERBYD EDEYRNION
Ffoniwch PCDSD ac archebwch gerbyd ar gyfer apwyntiad meddygol, trin gwallt, siopa neu i ymweld â ffrind. Daw’r cerbyd at y drws a’ch cludo i ble rydych am fynd o fewn cylch Edeyrnion a dychwelyd fel y byddwch yn ei drefnu. Mae mor syml â hynny.
Mae aelodaeth yn costio £15 yn unig am flwyddyn a chodir pris bychan am bob siwrne.
I dderbyn ffurflen ymaelodi, rhestr prisiau a’r telerau ac amodau galwch yng Nghanolfan Ni, Corwen i gwbwlhau’r dogfennau.

BWS HYBLYG CYNGOR SIR DDINBYCH
Mae’r bws hyblyg wedi cael ei gyflwyno fel cynllun peilot ar gyfer pobl sydd yn byw ym mhentrefi:-
Derwen
Melin Y Wig
Betws Gwerfil Goch
Fel y gallant deithio i Gorwen ar ddyddiau pan nad yw’r bysiau arferol yn gweithredu.
Mae hyn yn sicrhau nad oes neb wedi eu cyfyngu i’r tŷ oherwydd nad oes trafnidiaeth leol a fyddai’n arwain at arwahaniad cymdeithasol a fyddai yn ei dro yn arwain at bryder, iselder, a phroblemau meddyliol eraill yn datblygu.
Mae’r bws hyblyg i Gorwen yn rhedeg ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener rhwng 9:00 a 14:45
Gall teithwyr hefyd ddefnyddio’r bysiau arferol hefyd ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sadwrn fel arfer.
Galwch 01490 266 004 i archebu’r bws hyblyg i Gorwen. Yn ddelfrydol dylid archebu hyd at 15:00 y diwrnod cyn y diwrnod teithio. Mae’r llinnell ar agor Ddydd Llun i Gwener o 9:30 15:00.
Gellir derbyn archebion hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw.
