HWB CYMUNEDOL PENGWERN
Gweithio gyda’n gilydd er budd Cymuned Pengwern
EICH CYMUNED, EICH LLAIS – GWNEWCH IDDO GYFRI
Felly dewch i ni siarad am Hwb Cymunedol Pengwern- Dod a chymunedau at ei gilydd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau arian gan Gronfa Cymunedol y Loteri Cenedlaethol-dyfodol Gwledig, ar gyfer y cynllun “Cydweithio er mwyn dyfodol Cymuned Pengwern” Nod y cynllun yw datblygu canolfan Gymunedol Pengwern yn hwb cymunedol fydd yn cyflawni gofynion a gobeithion cymuned Pengwern
Mae Partneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych(PCDSD) yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych Cartrefu Cymunedol i ddatblygu y cynllun ac fe hoffem i chi , y gymuned gael mynegi eich barn a rhannu eich meddyliau ynglŷn â’r gwasanaethau a gweithgareddau rydych yn teimlo sydd bwysicaf i chi a’r gymuned. Rydym yn gobeithio y gallwch roi ychydig funudau i rannu eich sylwadau a’ch cynigion gyda ni er mwyn helpu i ddatblygu Hwb Cymunedol Pengwern.
Bydd eich hatebion yn helpu i nodi y gwasanaethau a gweithgareddau sy’n berthnasol i chi a’ch cymuned.
Mae cynlluniau yn cael eu datblygu ar gyfer adeiladwaith ac ehangu adnoddau yn Nghanolfan Cymunedol Pengwern. Gan weithio o fewn y cyfyngiadau presennol gobeithir cychwyn ar yr unedau newydd ym Mis Mai 2020 ac y bydd yr adnoddau newydd wedi eu cwblhau erbyn diwedd 2021
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg trwy mis Mai ac ar gael i’r holl gymuned fel bo’r canlyniadau yn ddarlun o sylwadau pob grŵp oedran, grŵpiau diddordeb a gofynion y gymuned. Mae cyfres o weithgareddau a digwyddiadau wedi eu trefnu i gynnig cyfleoedd i gynnwys ac annog pawb i gymryd rhan.
Fyddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd i roi adborth i’r gymuned yn gynnar ym mis Mehefin, i roi adborth i weithgareddau’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod yr adnoddau newydd, cyn belled a bo modd, yn ymateb i ganlyniadau’r ymgynghoriad.
Gallwch ddychwelyd eich holiadur gorffenedig i flychau post penodol sydd ar gael yng Nghanolfan Cymunedol Pengwern, Ysgol Bryn Collen, Ysgol Y Gwernant, Canolfan Iechyd Llangollen, Y Siop Un Alwad neu’r Ganolfan Rhannu Bwyd “Foodshare Llangollen” yng nghefn Stryd y Castell
Rydym yn sicrhau y bydd eich hymatebion yn gwbl gyfrinachol. Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r holiadur, neu os ydych angen cymorth i’w gwblhau cysylltwch gyda ni dros y ffôn 01490 266004 ac fe fyddwn yn hapus i helpu.