top of page

GWEITHIO GYDA'N GILYDD

Darganfyddwch gyda phwy rydym yn cyd-weithio i ddarganfod yr ateb gorau ar eich cyfer.

Citizens advice
cab logi.png

Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy’n effeithio ar fywydau pobl. Eu nod yw darganfod ffyrdd i bawb allu symud ymlaen beth bynnag fo’r problemau. Maent yn elusen annibynnol ac yn rhan o rwydwaith Cyngor ar Bopeth  yng Nghymru a Lloegr.

 

Bydd Kristen Sedgwick yn y ganolfan pob Dydd Mercher a Iau o 09.30 -16.30. Cyfnodau taro mewn ar fore Mercher a phrynhawn Iau ac apwyntiadau yn unig brynhawn Mercher a bore Iau.

 

Ffoniwch 01490 266 004 i wneud apwyntiad.

DSC_0026.jpg
Vale of Clwyd Mind
Nature for Health
mind.JPG

Mind

Dyffryn Clwyd

Sefydlwyd Mind Dyffryn Clwyd yn yr wythdegau fel cangen leol fechan o Mind Cenedlaethol. Ar y cychwyn grŵp bychan i gefnogi oedd, yn casglu arian trwy werthu raffl a boreau coffi er mwyn ychwanegu at grantiau’r cyngor.

Bellach mae gan y mudiad swyddfeydd yn y Gelli a Lôn Rosmari yn Nimbych ac yn Stryd y Dyffryn yn Y Rhyl. Mae’r mudiad yn cefnogi pobl leol drwy gynnal sesiynau taro-mewn yn Nimbych, Prestatyn a Llangollen sy’n cynnwys gweithgareddau arlunio, crefftau,TG, cyfrifiaduron, ffonau, tabled a gweithgareddau erail.

Gweithgareddau llwyddiannus cyfredol yw ‘Musical Meatballs in Mind’ Grŵp Cerdded ‘Mindfulness’ a chwrs coginio bywyd iach, prosiectau  rhandir Llanelwy a Rhuthun a Gwasanaeth monitro meddygol gweithredol yn Y Rhyl.

Natur er byd Iechyd

Hybu eich hiechyd a’ch llesiant trwy natur.

 

Hoffech chi gael cyfle i:

Ddysgu sgiliau newydd

Cyfarfod pobl newydd

Darganfod eich cymuned

Cymryd rhan mewn sesiynau cerdded wythnosol a gwirfoddoli i wneud gwaith amgylcheddol. Dewch i un o’n sesiynau.

 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn fuan!

Corwen Logo Banner Bilingual.png

Ynni Lleol Corwen

Mae Ynni Lleol Corwen yn brosiect cymunedol, a thrwy helpu i gyfateb ȃ’ch defnydd trydan gyda phwer o’r prosiect Ynni Lleol, bydd yn eich galluogi i reoli eich biliau trydan wrth gefnogi ynni adnewyddadwy lleol a sicrhau bod gawrgedion ariannol yn cael eu sianelu’n ol a’u cadw i brosiectau cymunedol gwerth chweil. 
 
Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y prosiect hwn, byddwch chi’n dod yn rhan o’ch clwb ynni lleol. Mae’r clwb yn cynnwys aelodau o’ch cymuned ynghŷd ȃ chynhyrchwyr lleol. Fel aelod, bydd gennych fesurydd smart yn eich cartref a fydd yn cofnodi pan fyddwch yn defnyddio trydan ( yn ogystal ȃ faint mae’n ei gostio i chi) ac yn eich helpu chi i brynu pwer mewn ffordd well. 
 

Energy Local
bottom of page